Taith Dreftadaeth Tref Sanclêr

Cliciwch yma i lawrlwytho ac argraffu map a gwybodaeth

Heritage Project comes togetherProsiect Treftadaeth yn dod at ei gilydd
Dyluniwr Phil Wait, Maer y Dref y Cyng. Jane Rees, Clerc y Dref Catrin Bradley a Chydlynydd y Prosiect y Cyng. Phil Rogers

Datblygwyd Llwybr Treftadaeth Tref Sanclêr i helpu i hyrwyddo hanes a diwylliant cyfoethog y dref ac i greu canolbwynt i drigolion ac ymwelwyr i ddysgu mwy am yr amgylchedd lleol.  Mae’r llwybr yn dilyn priffyrdd a llwybrau troed cyhoeddus ac mae’n eich galluogi chi i ymweld â’r prif safleoedd o ddiddordeb hanesyddol yn Sanclêr.  Mae’n mynd â chi ar daith dywysedig o tua milltir a hanner, sy’n cysylltu cymunedau hŷn a newydd Sanclêr mewn ffordd strwythuredig.  Bwriad y daflen hon yw rhoi trosolwg bras o’r safleoedd o ddiddordeb ac i’ch darparu chi â map o’r llwybr fyddwch chi’n ei ddilyn.  Ceir deuddeg panel deongliadol i gyd ac mae gan bob panel Gôd QR, sy’n darparu dolen i wybodaeth ychwanegol ar bob lleoliad.  Crëwyd llwybr sain hefyd i wella’r profiad ac mae clustffonau ar gael o Ganolfan Grefftau Y Gât, yn ystod oriau agor.

Designer Phil Wait and Project Co-ordinator Councillor Phil Rogers.Medrwch ddilyn y daith trwy amser ac olrhain hanes Sanclêr, gan sylwi ar rai o’r uchafbwyntiau ar hyd y ffordd.  Lleolir y panel cyntaf ar sgwâr yr Hen Farchnad, lle dewch chi o hyd i gerflun pren sy’n darlunio Terfysgwyr Beca, a cheir panel gwybodaeth sy’n disgrifio cysylltiadau’r dref gyda’u gweithgareddau yn y bedwaredd Ganrif ar bymtheg (1).  Lleolir y ddau banel nesaf ar safle Cofeb Rhyfel y dref (2/3), lle rhestrir enwau’r rhai hynny a laddwyd yn y ddau Ryfel Byd, ynghyd â phlac i arwr lleol a pheilot-ymladdwr nodedig o’r Rhyfel Byd Cyntaf - Y Capten Ira Jones.  Lleolir crynodeb a map o’r Llwybr ym maes parcio’r dref (4).  Trwy ddilyn y llwybr dan y bont ar y ffordd ddeuol ar Ffordd Peillac, fe welwch ddau banel (5/6), un sy’n disgrifio’r bywyd gwyllt a geir ar y daith glan afon ddarluniadwy hon a’r llall yn adrodd hanes Sanclêr yn y Canoloesoedd.  Byddwch yn ofalus, os gwelwch yn dda, oherwydd weithiau mae’r rhan hon o’r llwybr yn gorlifo pan fo’r llanw’n uchel. 

Ym mhen dwyreiniol y llwybr, fe welwch Eglwys Y Santes Fair Magdalen (7), adeilad prydferth o’r 12fed Ganrif, sydd â bwa cangell o ddyluniad Normanaidd Romanésg.  Gyferbyn i’r porth mynwent hardd hwn mae Neuadd y Dref (8), man cyfarfod rheolaidd y Gorfforaeth yn y 19eg Ganrif a lleoliad marchnad y dref yn y 1800’au.  Gellir dod o hyd i safle’r Castell Tomen a Beili Normanaidd a thystiolaeth o amddiffynfeydd y Dref ym Manc y Beili (9/10), lle mae’r domen neu’r twmpath yn  codi i 12 metr – un o’r talaf yng Nghymru.  Daw’r llwybr i ben yng Nghei’r Dref, lle mae paneli (11/12) yn adrodd stori Porthladd Sanclêr, glan yr afon a’r Ceiau a oedd yn bodoli yn ystod y 19eg Ganrif ac a oedd yn dal i weithredu ar ddechrau’r 20fed Ganrif.

Rydym yn eich annog i ddilyn marcwyr ffordd y Blue Boar i Gei’r Dref, a gobeithiwn yn fawr y byddwch yn mwynhau'r profiad.  Medrwch orffen y daith trwy ddychwelyd ar hyd eich llwybr gwreiddiol neu, os ydych yn dymuno dychwelyd ar y bws, mae gwasanaeth 222 ar gael – gwiriwch yr amserau ar yr amserlen a leolir ger y map yn y Maes Parcio yn lleoliad 4, os gwelwch yn dda.  Os oes gennych glustffonau Llwybr Sain, cofiwch eu dychwelyd i Ganolfan Grefftau Y Gât, os gwelwch yn dda. 

Diolchiadau

Mae Cyngor Tref Sanclêr yn ddyledus i Mr Don Benson am yr wybodaeth a’r ymchwil oedd yn hanfodol i greu’r Taith Dreftadaeth.
Rydym yn ddiolchgar i Steven John hefyd am ei wybodaeth am y Gofeb Ryfel yn Sanclêr, gweler http://www.wwwmp.co.uk/carmarthenshire/st-clears-war-memorial/ i gael mwy o wybodaeth.

South Wales Police - St ClearsBBC Weather BBC Tide Table

Canolfan Tywi - Tywi CentreRDP Sir GarCyfoeth Naturiol Cymru - Natural Resources WalesCarmarthenshire County CouncilYmddiriedolaeth Genedlaethol - National trustThe European Agricultuarl Fund and the Welsh Government

Website Design and Hosting by w3designs

Ysgubor Bryncaerau

With thanks to Iola Wyn, Ysgubor Bryncaerau for her assistance with the Welsh website’ | Gyda diolch i Iola Wyn, Ysgubor Bryncaerau am ei chymorth gyda’r wefan Gymraeg.